Cylchdaith Porthdafarch

Disgrifiad

Wedi’i ymgartrefu ers y cyfnod Neolithig, mae gan Caergybi hanes a natur helaeth. Cadwch eich llygaid yn agored wrth i chi grwydro’r ardal a gallech weld pob math o rywogaethau prin neu annisgwyl. Mae Ynys Cybi yn gartref i hebog tramor, bran goesgoch, pal, ac yn y moroedd o amgylch yr ynys, fe welwch morloi llwyd, llamhidyddion a dolffiniaid. Os ydych chi’n eithriadol o lwcus fe allech chi weld heulforgi neu hyd yn oed Orca ! Mae’r ddau rywogaeth hon wedi cael eu gweld yn y moroedd o amgylch Ynys Cybi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae pedair cylchdaith Caergybi yn amrywiadau ar thema. Mae’ch dewis o lwybr yn ddibynnol ar faint o amser ac egni sydd ar gael. Ond pa bynnag lwybr rydych chi’n ei ddewis, byddwch yn cael eich gwobrwyo gyda rai o’r golygfeydd mwyaf trawiadol yng Nghymru.

Gan ddechrau o Barc Gwledig Morglawdd Caergybi trowch i’r dde i ymuno gyda’r llwybr beicio wrth y fynedfa. Mae’r llwybr yma yn ymuno â Ffordd Ynys Lawd ac yn ymlwybro heibio Mynydd Twr tuag at y môr.

Os oes gennych yr amser (ac mae’r ynni) ystyriwch wyro o’r cylchdaith (milltir bob ffordd) er mwyn ymweld a goleudy Ynys Lawd. Mae’r ffordd ychydig yn serth – ond mae’r golygfeydd ar ddiwrnod da yn fendigedig. Nid yn annisgwyl mae Ynys Cybi hefyd yn enwog am ei chwaraeon dŵr, gyda chaiacio o radd rhyngwladol ar gael o gwmpas yr arfordir creigiog.

Mae Porthdafarch ei hun yn glifach bach gyda thraeth tywodlyd hardd. Mae’n boblogaidd iawn gyda theuluoedd yn ystod misoedd yr haf.

Map

Llefydd Diddorol

Galeri