Cylchdaith Golygfaol

Disgrifiad

Mae’r llwybr hwn yn cynnwys rhai o’r golygfeydd gorau ar Ynys Môn.

Mae’r llwybr yn dechrau gyda allt byr, serth allan o Fiwmares. Mae’r llwybr wedyn yn ymlwybro trwy’r wlad tuag at bentref Llanddona. O fan hyn i ddiwedd y llwybr, cewch eich diddanu â golygfeydd ysblennydd dros Draeth Coch, Ynys Seiriol, ac ar draws y môr tuag at Pen-y-Gogarth. Peidiwch â synnu os oes nifer o longau mawr i’w gweld – mae’r môr oddi ar Traeth Coch yn aml yn cael ei ddefnyddio fel angorfa cysgodol ar gyfer traffig morol sy’n aros i fynd i mewn i dociau Lerpwl.

Yna mae’r llwybr yn arwain tuag at Penmon a Ynys Seiriol. Ar y ffordd, byddwch yn pasio hen adeiladau hardd gan gynnwys hen felin wynt, ysgol wledig traddodiadol ac, os ydych chi’n cymryd ychydig o ddargyfeiriad, eglwys blwyf fach Llanfihangel Din Sylwy.

Cyn cPenmon ei hun, rydym yn cyrraedd Priordy Penmon – safle crefyddol ers y 6ed ganrif. Mae Penmon ei hyn yn lleoliad bendigedig gyda golygfeydd gwych dros y tir mawr ac tuag at Eryri. Mae Goleudy Trwyn Du hefyd yn ffefryn gyda ffotograffwyr.

Mae’r llwybr yn ol i Fiwmares yn pasio olion Castell Aberlleiniog, yn adeiladwyd yn wreiddiol tua 1088.

 

Map

Llefydd Diddorol

Galeri