Llwybr Y Land Rover

Disgrifiad

Yn ol pob son cafodd y Land Rover, un o’r cerbydau mwyaf eiconig erioed, yn “eni” ar Draeth Coch. Yn ystod haf 1947 tynnwyd cynlluniau ar gyfer y Land Rover cyntaf yn y tywod ar draeth Wern y Wylan gan y pennaeth dylunio Rover, Maurice Wilks, a’i frawd Spencer. Roedd gan y brodyr gysylltiad hir ag Ynys Môn a phrofwyd prototeipiau y cerbyd yn Niwbwrch a Llanddona cyn eu datgelu yn sioe modur Amsterdam yn 1948. Mae’r gweddill, fel mae’r Sais yn dweud, yn hanes!

Mae’r llwybr yna yn dringo allan o Fiwmares ac yna’n ymlwybro drwy dir ffermio agored i bentref Llanddona, ac yna ymlaen i Wern y Wylan. Ar lanw isel, mae Traeth Coch yn cwmpasu rhyw ddeg milltir sgwâr o dywod. Yn 1910 daeth pen dwyreiniol y traeth yn faes profi ar gyfer arbrofion hedfan cynnar. Adeiladodd William Ellis Williams, yr Athro Peirianneg Trydanol ym Mhrifysgol Bangor, ei awyren ei hun, a hedfanodd uwch y traeth mewn arbrofion a barodd hyd at ddechrau’r Rhyfel Mawr.

Gyda un allt arwyddocaol ym mhob cyfeiriad, credwn fod hwn yn ffordd addas ar gyfer y beicwyr mwy profiadol. Os ydych chi’n anifail o’r fath, ystyriwch uno’r llwybr hwn gyda ‘Cylchdaith Golygfaol‘ ar gyfer profiad beicio wirioneddol gofiadwy yn nwyrain Ynys Môn.

 

Map

Llefydd Diddorol

1 Castell Beaumaris
http://cadw.gov.wales/daysout/beaumaris-castle/?lang=en
https://en.wikipedia.org/wiki/Beaumaris_Castle

2. Cofgolofn Bulkeley
Adeiladwyd i goffáu Syr Richard Bulkeley Williams Bulkeley (1801-75). Fe’i dangosir yn gyntaf ar fap Arolwg Ordnans 1889.

3. Traeth Coch
https://en.wikipedia.org/wiki/Red_Wharf_Bay

Galeri