Beaumaris i Penmon

Disgrifiad

Mae’r llwybr yn ymestyn allan o Fiwmares ar hyd lonydd tawel cefn-gwlad tuag at bentref bach Llanfaes. Ar y chwith wrth i chi fynd trwy Lanfaes byddwch yn gweld hen ffatri Saunders-Roe. Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol tua 1940, a defnyddiwyd y ffatri i wasanaethu a paratoi cychod hedfan Catalina i’r RAF.

Ar ôl tua milltir ar y B5109 trowch i’r dde (arwyddion Penmon) i ffordd wledig tawel. Mewn rhyw filltir fe welwch rywfaint o gors ar eich chwith. Yn gudd yn y coed ar y bryn uchod yw olion Castell Aberlleiniog, a adeiladwyd tua 900 mlynedd yn ôl yn fuan ar ôl y Concwest Normanaidd. Mae ymweld â’r castell yn rhad ac am ddim – er efallai y bydd angen i chi wthio / cario’ch beic am ychydig.

Hefyd yn y lleoliad hwn yw ardal picnic Traeth Lleiniog. O’r fan hon, gallwch chi fwynhau golygfeydd anhygoel dros y Fenai tuag at mynyddoedd y Carneddi, ac Pen-y-Gogarth ar y chwith.

Y stop nesaf ar ein taith yw Priordy Penmon. Mae’n bosib fod hwn wedi bod yn safle crefyddol ers cyn y 6ed ganrif, ond mae’r adeiladau presennol yn dyddio’n ôl i’r 12eg a’r 13eg Ganrif. Adeiladwyd y colomendy ysblennydd tua 1600 – ac mae ganddo le i fil o adar.

Rydym yn gorffen ein taith – y goes allanol o leiaf – ar bwynt mwyf dwyreiniol Ynys Môn; Penmon.

Map

Llefydd Diddorol

Galeri