Disgrifiad
Cylchdeithiau Pontrhydybont a Rhoscolyn
Mae’r ddau lwybr hyn yn adeiladu ar Gylch Trearddur ac yn mynd â ni i ran ddeheuol y Ynys Cybi. Wrth i ni symud i ffwrdd o’r môr, mae’r tirlun yn newid i borfa agored a bythynnod traddodiadol Cymreig. Yn y pen draw, mae’r ddwy lwybr yn mynd â ni ar draws y ‘Four Mile Bridge’ ac yn ôl i Ynys Môn.
Mae Cylchdaith Rhoscolyn yn ychwanegu pentref mwyaf deheuol Ynys Cybi i’r daith – Rhoscolyn wrth gwrs. Mae gan Rhoscolyn ei draeth tywodlyd hardd ei hun – Borth Wen – ynghyd â gorsaf bad achub. Mae gan yr eglwys leol gofeb i’r aelodau Bad Achub a gollodd eu bywydau o amgylch arfordir Ynys Môn wrth geisio achub eraill. Mae’r pentref hefyd yn gartref i’r bar / bwyty enwog ‘Y White Eagle’ – yn ôl pob son un o hoff lefydd William a Kate, Dug a Duges Caergrawnt, pan oeddynt yn byw ar Ynys Môn.
O’r Fali, mae’r llwybr yn dilyn hen gefnffordd yr A5 (peidiwch â phoeni bod yna lôn beicio ar wahân) ac yn ôl i Gaergybi ei hun.
Hyd yn oed gan gynnwys gwyriad i oleudy Ynys Lawd, dim ond prin ugain milltir yw’r llwybr hiraf. Fodd bynnag, o ystyried y topograffeg – a chaniatáu digon o amser i ymlacio ac archwilio ar hyd y ffordd – byddwn yn awgrymu eich bod wedi neilltuo diwrnod llawn.
Map
Llefydd Diddorol
1 Parc Gwledig Morglawdd Caergybi
http://www.anglesey.gov.uk/planning-and-waste/countryside/holyhead-breakwater-country-park/
2 Clogwyni a Goleudy Ynys Lawd
https://www.rspb.org.uk/reserves-and-events/find-a-reserve/reserves-a-z/reserves-by- name/s/southstackcliffs/
https://www.trinityhouse.co.uk/lighthouse-visitor-centres/south-stack-lighthouse-visitor- centre
https://en.wikipedia.org/wiki/South_Stack_Lighthouse
3 Cerrig Penrhos Feilw
http://www.stone-circles.org.uk/stone/penrhosfeilw.htm
4 Porth Dafarch
https://en.wikipedia.org/wiki/Porth_Dafarch
5 Bae Trearddur
https://en.wikipedia.org/wiki/Trearddur
6 Rhoscolyn
https://en.wikipedia.org/wiki/Rhoscolyn
7 Pontrhydybont
https://en.wikipedia.org/wiki/Four_Mile_Bridge
8 Amgueddfa Morwrol Caergybi
http://www.holyheadmaritimemuseum.co.uk/