Eglwys St Cwyfan

Disgrifiad

Gan ddechrau yn Niwbwrch mae’r llwybr yn mynd â chi heibio olion Llys Rhosyr, yna trwy goedwig Niwbwrch nes cyrraedd cob Malltraeth. Mae’r llwybr yn parhau ar ben uchaf yr arglawdd i bentref Malltraeth. Adeiladwyd y cob yn 1811 er mwyn adfer tir ar lanau Afon Cefni ar gyfer defnydd amaethyddol.

Ar ol gadael pentref Malltraeth mae’r llwybr yn dilyn y briffordd am oddeutu milltir nes troi i ffwrdd ar lôn wledig tawel sy’n rhedeg yn gyfochrog ag aber Cefni. Mae’r tir o’ch cwmpas yma yn perthyn i Stad Bodorgan – yn hanesyddol un o dirfeddianwyr cyfoethog Ynys Môn. Ymhen amser mae’r lôn yn croesi twyni Aberffraw; un o’r enghreifftiau mwyaf helaeth o gynefin twyni symudoyn y DU. Mae’r twyni, ynghyd â Traeth Mawr a Llyn Coron (ar ben gogledd-ddwyrain y system twyni) wedi’u dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI).

Ar draws y hen bont garreg hardd mae pentref godidog Aberffraw. Y pentref bach hwn oedd prifddinas Teyrnas Gwynedd o tua 860 AD hyd c.1170; a’r ganolfan wleidyddol bwysicaf yng Nghymru. Mae’r pentref yn cynnal canolfan dreftadaeth sy’n ymroddedig i’w threftadaeth, ynghyd ag ystafelloedd te sy’n darparu lluniaeth.

Rydym yn parhau â’n taith drwy’r pentref ac yn ôl tuag at y môr. Wrth i chi ddisgyn tuag at y traeth fe welwch pam mae eglwys Sant Cwyfan mor boblogaidd â ffotograffwyr. Ar ddiwrnod braf mae hon yn leoliad fythgofiadwy. Adeiladwyd yr eglwys ar y tir mawr yn y 12fed Ganrif, ond mae erydiad arfordirol wedi bwyta’n raddol y penrhyn ble roedd yr eglwys yn sefyll. Fodd bynnag, yn 1893 cododd pensaer lleol, Harold Hughes, arian i achub yr eglwys trwy adeiladu’r wal sy’n ei warchod.

Map

Taith St Cwyfan

Llefydd Diddorol

Galeri